Jeremiah 44

Neges yr Arglwydd i bobl Jwda oedd yn yr Aifft

1Dyma neges arall roddodd yr Arglwydd i Jeremeia am bobl Jwda oedd yn byw yn yr Aifft, yn Migdol ger Tachpanches, a Memffis yn y gogledd, a tir Pathros i'r de hefyd: 2“Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi gweld y dinistr anfonais i ar Jerwsalem a threfi Jwda i gyd. Pentwr o gerrig ydyn nhw bellach, a does neb yn byw ynddyn nhw. 3Digwyddodd hyn i gyd am fod y bobl yno wedi gwneud cymaint o ddrwg, a'm gwylltio i drwy addoli duwiau eraill a llosgi arogldarth iddyn nhw. Duwiau oedden nhw doeddech chi na'ch hynafiaid yn gwybod dim amdanyn nhw. 4Roeddwn i'n anfon fy ngweision y proffwydi atoch chi dro ar ôl tro, yn pledio arnoch chi i beidio ymddwyn mor ffiaidd am fy mod i'n casáu'r fath beth! 5Ond wnaethoch chi ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw ohona i. Wnaeth y bobl ddim troi cefn ar eu drygioni na stopio offrymu i'r duwiau eraill. 6Felly dyma fi'n tywallt fy llid yn ffyrnig arnyn nhw – roedd fel tân yn llosgi drwy drefi Jwda a strydoedd Jerwsalem. Dyna pam maen nhw'n adfeilion diffaith hyd heddiw.’

7“Felly nawr mae'r Arglwydd, y Duw holl-bwerus, Duw Israel, yn gofyn: ‘Pam ydych chi'n dal ati i wneud niwed i chi'ch hunain? Pam ddylai pob dyn, gwraig, plentyn a babi bach gael ei gipio i ffwrdd o Jwda, fel bod neb o gwbl ar ôl? 8Pam dych chi'n fy ngwylltio i drwy addoli eilunod dych chi eich hunain wedi eu cerfio? Ac yma yn yr Aifft, lle daethoch chi i fyw, dych chi'n llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Ydych chi eisiau cael eich torri i ffwrdd? Ydych chi eisiau bod yn esiampl o bobl wedi eu melltithio ac yn destun sbort yng ngolwg y gwledydd i gyd? 9Ydych chi wedi anghofio'r holl ddrwg wnaeth eich hynafiaid yng ngwlad Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem – y drwg wnaeth brenhinoedd Jwda a'u gwragedd, a chi eich hunain a'ch gwragedd? 10Does neb wedi dangos eu bod nhw'n sori o gwbl! Does neb wedi dangos parch ata i, na byw'n ffyddlon i'r ddysgeidiaeth a'r rheolau rois i i chi a'ch hynafiaid.’

11“Felly dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n bendant yn mynd i ddod â dinistr arnoch chi. Dw i'n mynd i gael gwared â chi'n llwyr. 12Byddwch chi i gyd yn marw – pawb oedd ar ôl yn Jwda ac wnaeth benderfynu dod i fyw i'r Aifft, yn bobl gyffredin ac arweinwyr. Byddwch chi i gyd yn cael eich lladd yn y rhyfel neu'n marw o newyn. Bydd pethau ofnadwy yn digwydd i chi, a byddwch yn destun sbort ac yn esiampl o bobl wedi eich melltithio. 13Dw i'n mynd i gosbi'r rhai sy'n byw yn yr Aifft, fel gwnes i gosbi pobl Jerwsalem. Dw i'n mynd i'w taro nhw gyda rhyfel, newyn a haint. 14Fydd neb o bobl Jwda oedd ar ôl ac a aeth i lawr i'r Aifft yn dianc. Maen nhw'n hiraethu am gael mynd yn ôl i wlad Jwda, ond gân nhw ddim – ar wahân i lond dwrn o ffoaduriaid.’”

15Dyma'r dynion oedd yn gwybod bod eu gwragedd wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a'r gwragedd oedd yno hefyd, yn ateb Jeremeia. (Roedd tyrfa fawr ohonyn nhw – sef pobl Jwda oedd yn byw yn Pathros, de'r Aifft.) 16“Ti'n dweud dy fod ti'n siarad ar ran yr Arglwydd. Wel, dŷn ni ddim yn mynd i wrando arnat ti! 17Dŷn ni wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i'r dduwies ‛Brenhines y Nefoedd‛
44:17 Brenhines y Nefoedd Y dduwies Asyriaidd Ishtar o bosibl.
. Roedd ein hynafiaid a'n brenhinoedd a'n harweinwyr yn gwneud hynny yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem, a bryd hynny roedd gynnon ni ddigon o fwyd, roedd pethau'n dda arnon ni a doedd dim trafferthion.
18Ond ers i ni stopio llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod iddi,
44:18 stopio … iddi Falle fod yma gyfeiriad at ddiwygiadau y brenin Joseia.
dŷn ni wedi bod mewn angen – mae llawer o'n pobl ni wedi cael eu lladd yn y rhyfel neu wedi marw o newyn.”
19A dyma'r gwragedd oedd yno'n dweud, “Mae'n wir ein bod ni wedi bod yn llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i Frenhines y Nefoedd, ond wyt ti'n meddwl ein bod ni wedi bod yn gwneud cacennau a thywallt offrwm o ddiod iddi heb fod ein gwŷr yn gwybod am y peth ac yn ein cefnogi?”

20A dyma Jeremeia yn eu hateb nhw, y dynion a'u gwragedd: 21“Wnaeth yr Arglwydd ddim anghofio'r arogldarth wnaethoch chi ei losgi i eilun-dduwiau ar strydoedd Jerwsalem. Roeddech chi a'ch hynafiaid, eich brenhinoedd a'ch swyddogion, a'r bobl gyffredin yn gwneud hynny. 22A doedd yr Arglwydd ddim yn gallu diodde'r holl ddrwg a'r pethau ffiaidd roeddech chi'n eu gwneud. Cafodd y wlad ei dinistrio a'i difetha'n llwyr ganddo. Cafodd ei gwneud yn esiampl o wlad wedi ei melltithio. Does neb yn byw yno heddiw. 23Am eich bod chi wedi llosgi arogldarth i dduwiau eraill; am eich bod chi wedi pechu yn erbyn yr Arglwydd a gwrthod gwrando arno; am eich bod chi ddim wedi byw fel dysgodd e chi, a chadw ei reolau a'i ddeddfau – dyna pam mae'r dinistr yma wedi digwydd.”

24Yna dyma Jeremeia yn dweud fel hyn wrthyn nhw, yn arbennig y gwragedd: “Gwrandwch ar neges yr Arglwydd, chi bobl Jwda sydd yng ngwlad yr Aifft. 25Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dych chi'r gwragedd wedi gwneud yn union beth roeddech chi'n ddweud! Roeddech chi'n dweud eich bod chi wedi addo llosgi arogldarth a thywallt offrwm o ddiod i Frenhines y Nefoedd, ac mai dyna oeddech chi'n mynd i'w wneud. Iawn! Ewch ymlaen! Cadwch eich gair!’ 26Ond gwrandwch ar beth sydd gan yr Arglwydd i'w ddweud wrthoch chi: ‘Dw i wedi tyngu llw i'm enw mawr fy hun,’ meddai'r Arglwydd. ‘Fydd neb o bobl Jwda sydd yn yr Aifft yn galw arna i na dweud, “Mor sicr â bod yr Arglwydd, ein Meistr, yn fyw …” 27Dw i'n gwylio, i wneud yn siŵr mai drwg fydd yn digwydd iddyn nhw, dim da. c Byddan nhw'n cael eu lladd yn y rhyfel ac yn marw o newyn. Fydd neb ar ôl! 28Ychydig iawn iawn fydd yn llwyddo i ddianc rhag y cleddyf. Byddan nhw'n mynd yn ôl i wlad Jwda o'r Aifft. Bydd y bobl o Jwda ddaeth i fyw i wlad yr Aifft yn gwybod mai beth dw i'n ddweud sy'n wir, nid beth maen nhw'n ddweud! 29Byddwch chi'n gwybod wedyn fod y dinistr dw i'n ei fygwth yn mynd i ddigwydd. A dyma'r prawf fy mod i'n mynd i'ch cosbi chi,’ meddai'r Arglwydd: 30‘Dw i'n mynd i roi Pharo Hoffra, brenin yr Aifft, yng ngafael y gelynion sydd eisiau ei ladd.
44:30 Pharo Hoffra … ei ladd Roedd Hoffra, neu Apries, yn frenin yr Aifft o 589 i 570 CC, pan gafodd ei ladd gan Ahmosis II, ddaeth yn frenin yn ei le, a teyrnasu hyd 526 CC
Bydd yn union fel y gwnes i Sedeceia, brenin Jwda, pan gafodd ei ddal gan Nebwchadnesar, brenin Babilon, oedd am ei ladd e.’”

Copyright information for CYM